Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2014

Amser: 09.03 - 10.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/2464


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Darren Millar AC (Cadeirydd)

William Graham AC

Mike Hedges AC

Alun Ffred Jones AC

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

Sandy Mewies AC

Tystion:

Simon Dean, Llywodraeth Cymru

Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru

Martin Sollis, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Huw Vaughan Thomas (Cynghorwr Arbenigol)

Meriel Singleton (Ail Glerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Glastir

1.1        Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan gytuno i gynnal sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru.

1.2        Yn dilyn y sesiwn honno, bydd yr Aelodau'n trafod a ydynt am gynnal unrhyw waith arall yng nghyswllt Glastir.

</AI1>

<AI2>

2       Cyllid Iechyd 2013-14: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

2.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru drosolwg byr o brif ganfyddiadau ei adroddiad i'r Aelodau.

</AI2>

<AI3>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI3>

<AI4>

3       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

</AI4>

<AI5>

4       Papurau i’w nodi

4.1 Nodwyd y papurau.

</AI5>

<AI6>

4.1   Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (27 Hydref 2014)

</AI6>

<AI7>

4.2   Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiynydd Plant Cymru

</AI7>

<AI8>

4.3   Craffu ar Gyfrifon y Comisiynwyr ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Mike Shooter (3 Tachwedd 2014)

</AI8>

<AI9>

4.4   Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2013-14: Gwybodaeth ychwanegol

</AI9>

<AI10>

4.5   Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Dr Andrew Goodall (4 Tachwedd 2014)

</AI10>

<AI11>

4.6   Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan y Cadeirydd at Dr Andrew Goodall (6 Tachwedd 2014)

</AI11>

<AI12>

5       Cyllid Iechyd 2013-14

5.1Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru; Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru; a Martin Sollis, Llywodraeth Cymru, ynghylch Cyllid Iechyd 2013-14.

5.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu nodyn ar y canlynol:

·         Casgliad Canolfan Metaddadansoddi Cochrane (2012) bod y driniaeth pan fo pwysedd gwaed yn ymylu ar fod yn uchel yn fwy tebygol o niweidio cleifion na'u helpu, ac eithrio yn achos diabetes, a bod hynny'n un o'r contractau fframwaith ansawdd a deilliannau ar gyfer meddygon teulu

·         Sut y rhoddir ystyriaeth i ardaloedd gwledig wrth ddyrannu unrhyw adnoddau yn y dyfodol

·         Rheoli meddyginiaethau

·         Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif yn erbyn yr amcan gofal iechyd darbodus

·         Gweithio gyda chyfarwyddwyr gweithluoedd yng Nghymru, amlinellu eu dull gweithredu o ran polisïau disgyblu a sut y gellir cyflymu'r broses

 

</AI12>

<AI13>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI13>

<AI14>

7       Cyllid Iechyd 2013-14: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Dr Goodall i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a godwyd.

7.2 Nododd y Pwyllgor fod disgwyl i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar amseroedd aros gael ei gyhoeddi yn fuan a chytunodd i'w drafod cyn cyflwyno adroddiad.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>